LoRaWAN : pyrth i'n holl ddyfodol
Fe ddechreuwyd y Rhyngrwyd y Pethau yn y DU yn 2015, gyda’r cyflwyniad o rhyngrwydiau pŵer isel yn gallu gweithio dros bellterau hir. Mae hyn reit debyg i’r ffordd mae 4G neu WIFI yn gweithio, ond yn defnyddio amleddau pŵer isel, sy’n galluogi i declynnau gysylltu â rhyngweithio gyda’i gilydd heb ddefnyddio lawer o bŵer batri –mewn ffordd amgylcheddol a rhad.
Mae’r rhyngrwydiau yma yn cael eu cynorthwyo gan byrth LoRaWan, yn enwedig i RhyP ddiwydiannol, sy’n galw am synwyryddion sydd angen cost effeithiolrwydd, pellter hir a phŵer effeithiol. LoRaWan yw’r safon fyd-eang gyda’r protocolau ar gyfer rhyngweithio o un man i nifer o bwyntiau. Mae pob porth yn gallu cynorthwyo hyd at 10,000 o bethau gydag amrediad o 10km, yn parhau i fyny at 5 mlynedd.
Mae’r gymuned RhyP yn parhau i ddatblygu’n sydyn, ac mae hyn yn amlwg wrth ystyried ffigyrau diddorol o’r wefan The Things Network – cydweithrediad byd-eang yr ecosystem RhyP sy’n creu rhwydweithiau, teclynnau a datrysiadau sy’n defnyddion LoRaWan- yn hanfodol grŵp o weithwyr proffesiynol yn y byd yma:
47.9m o negeseuon yn cael eu gyrru a danfon – heddiw
ar draws 151 o wledydd
1,000 o ddatblygwyr ardystiedig
40,000 o byrth, gyda 20,200 o’r rhain wedi trawsyrru yn y pythefnos diwethaf
Wrth ganolbwyntio ar y DU, fe nodwn batrwm diddorol iawn yn yr ystyr o’r rhanbarthau sy’n defnyddio'r dechnoleg yma – Norfolk (80 o byrth) Cernyw a Dyfnaint ( 31 o byrth) ac yma yng Ngogledd Cymru ( 55 o byrth rhwng Sir Fôn a Gwynedd ) yn dangos ffigyrau pryfoclyd, o bosib yn awgrymu'r addasrwydd ac amlbwrpasedd i’r dechnoleg yma dros gefn gwlad.
Mae’n ddiddorol hefyd i gysidro'r math o ddefnyddiau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ar draws y byd:
Chwefror 2022 – Severn Trent Water yn cyhoeddi prosiect £20m i ddatblygu rhwydwaith dwr clyfar, yn defnyddio 150,000 o fesurydd LoRaWan
System newydd yn cynnwys 70,000 o oleuadau stryd ym Montevideo yn defnyddio LoRaWan, dros ardal o 200 kilometr sgwâr, gyda’r nod o leihau allyriadau carbon hyd at 80%
Rheoli adeiladau, LoRaWan yn darparu datrysiadau rheoli cyfleusterau gyda chwmniau fel Ambitek, yn defnyddio’r dechnoleg i fonitro ansawdd aer a chyflwr peipiau dwr
Tracio asedau – LoRaWan yn darparu gwybodaeth amser real ar gyfer asedau sy’n cael eu cludo – fel Norsea m mhorthladdoedd Amsterdam a Rotterdam
Dyfrhau clyfar – Zenzeio yn defnyddio’r dechnoleg i arbed costau dwr a chwrtaith
Parcio clyfar – wrth drawsyrru gwybodaeth gywir ar y nifer o safleoedd parcio ar gael , mae cwmniau fel Bosch yn gallu cynorthwyo’r datblygiadau o ‘ddinasoedd clyfar’ er mwyn cyfleustera a diogelwch y cyhoedd.
Tracio gwartheg – tagiau clust clyfar a choleri wedi’u pweru gan yr haul yn cael eu defnyddio i fonitro ac arwain y gwartheg o gwmpas y caeau, sy’n arbed amser ac egni i’r ffermwr.
Yn agosach at adref, ‘da ni yma yn dewin.tech wedi bod yn targedu’r sector amaeth ac yn y dechrau yn defnyddio’r dechnoleg drwy gynnig y teclyn dewin agor:cau i’r gymuned ffermio. Os oes gennych unrhyw broblem i dracio unrhyw beth sy’n agor a chau, o bosib fe fydd ein technoleg o ddiddordeb i chi gadw eich busnes yn ddiogel ac arbed arian i chi.
Os byddwch yn y byd amaeth ac wedi cael llond bol o giatiau yn cael eu gadael yn agored a’r stoc yn dianc, neu’n berchen ar eiddo sydd angen ei gadw’n ddiogel, mae defnyddio teclyn dewin agor:cau i’ch giat, ffenest, newu ddrws yn ddatrysiad gwych!
Tra’n adlewyrchu ar y posibiliadau anferthol yma, mae’n bwysig i atgofio’n hunain o’r manteision o ddefnyddio LoRaWan:
Cost isel
Defnydd pŵer isel
Amrediad hir – y record byd ar y funud yw 832km yn ystod y Gynhadledd Things Virtual 2022
Saff
Diogel – dilysrwydd, uniondeb a chyfrinachedd yn sicr
Addasrwydd
Amlbwrpasedd
Didrwydded
Fe allwch ddarganfod o’r trosolwg byr yma, mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Os ‘rydych angen gwybod mwy, neu fod gennych syniad sydd o bosib yn gallu manteisio drwy ddefnyddio LoRaWan, cysylltwch â ni. Fe fuasem ni wrth ein boddau trafod eich syniadau ac i rannu ein harbenigedd a’n profiad gyda chi.