Dod â thechnoleg canrif21 i gefn gwlad Cymru a thu hwnt
Mae dewin.tech yn gwmni technoleg Rhwydwaith y Pethau ac yn cynnig datrysiadau LoRaWAN i ddarparwyr gwasanaeth a busnesau
Yn gweithio’n agos gyda’r technolegwyr gorau o Gymru, mae dewin.tech yn dod a thechnoleg gyfnewidiol a datrysiadau i’r farchnad er mwyn gwneud bywyd yn haws.
Rydym yn defnyddio technoleg canrif21 i greu gwerth i’n cwsmeriaid drwy arbed costau, gwella ansawdd, effeithiolrwydd, gwella rheolaeth a diogelwch.
Mae dewin.tech yn cynnig datrysiadau gyda phosibiliadau ddiddiwed.
Beth am drafod tech.
Mae’r rhyngrwyd yn rhwydwaith enfawr, sy’n cysylltu cyfrifiaduron ar draws y byd ac yn galluogi pobl i rannu gwybodaeth a chysylltu gyda rhywle a rhywun sydd gyda chysylltiad addas. Mae Rhyngrwyd y Pethau’n ddatblygiad o’r syniad yma, ond mae dewis y gair ‘pethau’ yn fwriadol, gan ei fod yn gallu bod yn unrhyw beth.
Rhyngrwyd y Pethau
Rhyngrwyd y Pethau yw’r lle mae pethau yn cael eu cysylltu ar y rhyngrwyd, sy’n synhwyro rhywbeth, yn creu data o’r canlyniadau, ac wedyn yn creu rhywbeth allan o’r wybodaeth yma.
Mae hyn yn agor allan posibiliadau enfawr ac mae dewin.tech yn awyddus i ganolbwyntio ar ddatblygu’r dechnoleg yma yn y sectorau amaeth a chyhoeddus.
LoRa a LoRaWAN.
Mae yna nifer o ddyfeisiadau sy’n addas i’w defnyddio ar Ryngrwyd y Pethau. Fe allwn gysidro fod y rhain yn aelodau o wahanol deuluoedd sy’n gallu cydweithio.
Mae LoRa yn dechnoleg di-wifr ac mae LoRaWAN yn ffordd o gysylltu dyfeisiadau synhwyro a rhaglenni gyda’i gilydd. Mae LoRa yn dechnoleg sy’n defnyddio pŵer isel ac yn trosglwyddo ar lefelau isel i gymharu â ffonau symudol, WiFi ac yn y blaen.
Mae LoRa yn sefyll am ‘Long Range’ ac mae dyfeisiadau LoRa yn gallu trosglwyddo a derbyn data dros bellter.
Mae WAN yn sefyll am ‘Wide-Area Network’. Mae dyfais synhwyrydd LoRaWAN yn beth sy’n cyfuno :
Un neu fwy o synwyryddion i fesur neu ddatgelu pethau o ddiddordeb
Trosglwyddydd radio ac antena LoRa
Rheolwr micro rhaglennog i synhwyro, ymuno a’r rhwydwaith LoRaWAN ac anfon y data (ac o bosib yn derbyn data neu berfformio tasgau eraill)
A hefyd, yn arferol, cyflenwad pŵer batri
Pam LoRaWAN?
Amrediad hir
Fe allwn leoli dyfeisiadau yn bell o’r porth - hyd at 10km mewn lleoliadau ble mae yna olwg clir rhwng y ddyfais a’r porth
Bywyd batri
Tra mae angen gwefru batri ffon symudol bron yn ddyddiol, mae’n arferol i fatris ddyfeisiadau LoRaWAN barhau am fisoedd ac o bosib hyd at 10 mlynedd heb wefru neu newid batri . Drwy ddefnyddio egni solar, mae’n bosib gwefru’r batri am hyd amhendant
Cyfradd Data
Er mwyn galluogi LoRaWAN i berfformio yn dda o safbwynt amrediad a chymeriant isel o egni, mae yna lefel i beth sy’n bosib o safbwynt y cyfanswm o ddata sy’n gallu Cael ei arbed neu’i anfon, a pha mor aml. Mae’r gyfradd data yn araf ac yn isel, sydd yn oll dderbyniol yn arferol. Er hynny, fe all y ddyfais LoRaWAN anfon mesuriadau amgylcheddol yn hawdd ac yn aml, ond nid oes ddigon o gynhwysedd i anfon delweddau CCTV fel enghraifft
Posib graddio a fforddiadwy
Mae dyfeisiadau LoRaWAN yn fwy fforddiadwy nawr, felly mae’n bosib defnyddio nifer ohonynt (gydag ystod o synwyryddion ym mhob un) i’w defnyddio i synhwyro dros ardal eang, neu i fesur pethau yn fwy dyfn ar faes mwy lleoledig
Pyrth yn fwy cyffredin
Fe all pyrth ddelio gyda nifer o ddyfeisiadau, a derbyn arwyddion dros ardal eang. Gyda’r rhyngrwyd sydd yn ei ddewis yn arferol yn y maes cyfnewidiad ( sydd yn cael ei ddisgrifio’n ymhellach), nid oes angen i chi berchnogi porth i ddechrau os yr ydych du mewn i amrediad porth rhywun arall. Mae ychwanegu’r nifer o byrth yn gwella a chryfhau’r ystwythder i’r rhaglen ac yn ehangu’r rhyngrwyd yn ymhellach
Diogelwch
Ni fydd y data o’r dyfeisiadau ar gael i unrhyw un sy’n ceisio clustfeinio ar donnau radio. Mae’n hollol ddiogel.
Hunan-fonitro
Gall y dyfeisiadau anfon data hunan-fonitro neu delemetreg yn ogystal â data'r synwyryddion fel rhan o’r ‘payload’. Fel enghraifft, fe all y ddyfais anfon data ar lefelau cyflenwadau pŵer, er mwyn rhoi amcan pryd fydd angen newid neu wefru’r batri
Cysylltwch â ni.
Anfonwch neges atom, rhowch alwad i ni neu gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol i ddarganfod mwy am ffyrdd y gallwn ddod â datrysiadau technoleg arloesol i wella effeithlonrwydd, diogelwch a rheolaeth ar gyfer eich busnes.